Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Mehefin 2018
Amser:
09.32 -
12.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4840
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Victoria Winckler, Sefydliad Bevan Alan Bermingham, Y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth Yr Athro Steve Fothergill, Prifysgol Hallam, Sheffield Yr Athro David Bell, Prifysgol Stirling Yr Athro Terry Marsden, Prifysgol Caerdydd |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC, David Rees AC a Neil Hamilton AC.
2.1 Nodwyd y papur.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, fel rhan o'i ymchwiliad i baratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alan Bermingham o'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth fel rhan o'i ymchwiliad i baratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Steve Fothergill o Brifysgol Sheffield Hallam, yr Athro David Bell o Brifysgol Stirling a'r Athro Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd fel rhan o'i ymchwiliad i baratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20, gan gytuno:
· i gyhoeddi crynodeb o'r trafodaethau â rhanddeiliaid yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 7 Mehefin 2018;
· i ysgrifennu at bwyllgorau polisi eraill, gan nodi nifer o themâu i graffu arnynt; ac
· i ddarparu cyngor arbenigol ynghylch cyfradd treth incwm Cymru.